cysytlltwch a ni
map o'r wefan
amodau a thelerau
Wales Cancer Trials Network Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru
english tudalen gartref uned treialon clingol Gwybodaith i gleifion info for health professionals

Newyddion

Gwybodaeth am dreialon

Cwestiynau a ofynnir yn aml am dreialon

Cysylltiadau allanol

Gwybodaeth am dreialon
[Last Updated: 9 August, 2004 11:35 ]

Am wybodaeth bellach ar dreialon penodol sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru, ewch i wefan Cancer Research UK, “Cancerhelp”. Ysgrifennwyd y safle hwn gyda’r cleifion dan sylw, ac mae’n llawn o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys geirfa eang o dermau meddygol y gallech ddod ar eu traws yn ystod eich triniaeth.

Ffeithiau a Ffigurau Canser
Mae canser yn un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru gyda 17,079 o achosion newydd (heb gynnwys canser y croen nad yw’n felanoma) wedi’u cofrestru yn 2000. Yn nhermau’r perygl unigol, mae hyn yn golygu bod dros 1 person o bob 3 mewn perygl o ddatblygu canser yn ystod eu bywyd. Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol o ddatblygu yn ddiweddarach mewn bywyd, gan y caiff dros 65 y cant o bob canser newydd ei ganfod ymhlith pobl dros 65 oed.

Ceir dros 200 o wahanol fathau o ganser, ond mae dim ond pedwar ohonynt – canser yr ysgyfaint, y fron, y coluddyn mawr (colorefrol) a’r prostad - yn gyfrifol am hanner yr holl achosion newydd. I’r ifanc, mae mathau eraill o ganserau yn bwysig. Er enghraifft, lewcemia yw’r math mwyaf cyffredin o ganser mewn plant (traean o bob achos) ac, ymhlith dynion ifanc 20-39 oed, canser ceilliol yw’r math o ganser sy’n digwydd amlaf.

Y math mwyaf cyffredin o ganser i ddynion yw canser yr ysgyfaint, sy’n gyfrifol am un rhan o bump o bob achos newydd. Y newyddion da yw bod nifer yr achosion o’r math hwn o ganser yn disgyn o ganlyniad i ostyngiad mewn smygu ymysg dynion. Canser y prostad yw’r ail fath mwyaf cyffredin o ganser mewn dynion, gyda chanser y coluddyn mawr i ddilyn. Mae peth o’r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o ganser y prostad yn debygol o ddeillio o gynnydd yng nghyfradd canfod y canser, yn arbennig o ganlyniad i’r prawf antigen penodol y prostad (PSA) sydd ar gael ers dechrau’r 1990au.

Canser y fron yw’r canser mwyaf cyffredin o bell ffordd ymhlith merched gyda thua 35,000 o achosion newydd yn y DU ym 1996. Cynyddodd nifer yr achosion o ganser y fron drwy gydol yr 1980au gan gyrraedd uchafbwynt ym 1992. O ganlyniad, mae’r perygl o gael canser y fron mewn bywyd wedi cynyddu o un o bob deuddeg i un o bob deg. Digwyddodd y rhan fwyaf o’r cynnydd ers 1988 ymhlith merched rhwng 50-64 oed ac mae’n gysylltiedig â’r rhaglen sgrinio genedlaethol.

Ffynonellau: Swyddfa Ystadegau Gwladol; Adran Gwybodaeth ac Ystadegau Yr Alban; Cofrestrfa Canser Gogledd Iwerddon.

Gwybodaeth i Gleifion > Gwybodaeth am dreialon

 

cysylltwch a ni

map o'r wefan

amodau a thelerau


[Last Updated: 9 August, 2004 11:35 ]
WCTN Newyddion

  Ynglyn â WCTN

  Beth yw WCTN?

  Nodau WCTN

  Swyddfa Gydlynu

  Staff rhwydwaith ac   ariannu

  Strwythur y   Sefydliad

NHS Wales GIG Cymru